Amdanaf I
Cefais fy ngeni a’m magu yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, a gallaf gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. O’r herwydd, rwy’n hapus ac yn hyderus i arwain gwasanaethau yn y naill iaith neu’r llall ac/neu’n ddwyieithog.
Rwyf wedi byw yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ers dros ddeugain mlynedd gyda fy nheulu — fy ngŵr Gareth a’n dau blentyn, Sara a Tomos — ac rwyf bellach yn nain/fam-gu i Wil a Lili.
Bûm yn gweithio am ddeg mlynedd ar hugain ym maes nyrsio anableddau dysgu, gan gefnogi, gofalu ac eirioli ar ran unigolion ag anabledd dysgu ac awtistiaeth. Daw ffynhonnell fy angerdd o’r ffaith bod gennyf brofiad personol o fod â brawd ag anabledd dysgu ac awtistiaeth.
Cefais wedyn y cyfle i weithio fel Cyfarwyddwr Cynhwysiant gyda ‘Mudiad Meithrin’ (Arbenigwyr Blynyddoedd Cynnar) am ddeg mlynedd, ac roedd hyn yn gyfle gwych i gefnogi staff, teuluoedd a phlant ifanc ag anghenion ychwanegol ledled Cymru.
Yn fwy diweddar, fe fum yn gweithio fel Hwylusydd Addysg Ymarfer ar gyfer myfyrwyr nyrsio ym maes anableddau dysgu ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ystod fy ymddeoliad, rwyf wedi gweithio fel cynghorydd a hyfforddwr annibynnol ym maes anableddau dysgu, awtistiaeth a chynhwysiant, ac fel Caplan rhan-amser ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr.
Yn ddiweddar, astudiais ar gyfer MA mewn “Astudiaethau Rhyng-ffydd”, ac mae hyn wedi ehangu fy nealltwriaeth o wahanol grefyddau, gan gyfoethogi fy nghred ym mhwysigrwydd cynhwysiant a pharch.
Yn awr, fel Gweinydd Angladdau a Phriodasau, byddaf yn sicrhau bod pawb yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl y gallent ei ddymuno, gan gynnal didwylledd, tosturi, cynhwysiant, cyfrinachedd a phroffesiynoldeb bob amser.
Mae fy rolau blaenorol wedi cynnwys teithio ledled Cymru, ac felly rwy’n barod i deithio unrhyw bellter i gefnogi teulu ar unrhyw achlysur fel Gweinydd Angladdau neu Briodasau.
Rwy’n caru’r awyr agored, nofio yn y môr, padlfyrddio a cherdded – er nad wyf mor heini ag yr hoffwn fod ond yn gweithio tuag ato!
Rwy’n mwynhau cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd, ac edrychaf ymlaen at glywed gennych.
