Priodasau ac Adnewyddu Addunedau

Byddaf yn gweithio gyda chi i greu eich diwrnod arbennig — un sy’n wirioneddol unigryw i chi’ch dau — neu i greu seremoni hardd i ailddatgan eich cariad ac adrodd eich stori gyda’ch teulu.

Gellir cynnal y ddwy seremoni mewn lleoliad o’ch dewis — naill ai dan do neu yn yr awyr agored — a gallant gynnwys elfennau crefyddol, ysbrydol neu symbolaidd, e.e. Tywallt Tywod; Rhwymo Dwylo; Cynhesu Modrwyau; Plannu Coeden; Cannwyll Undod ac ati.

Bydd pob seremoni yn gynhwysol ar bob lefel.

Y peth pwysicaf mewn unrhyw seremoni yw y byddaf yn eich cefnogi ac yn eich tywys i greu sgript sy’n wirioneddol yn eiddo i chi ac yn adlewyrchiad o’ch cariad a’ch ymrwymiad.

Eich geiriau chi – Eich dymuniad chi.

Byddaf yn eich arwain ac yn eich cefnogi gyda gofal a didwylledd.

Prisiau

Priodasau

£650

Yn barod i deithio ledled Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw gostau teithio ychwanegol yn cael eu trafod a’u cytuno gyda’r cleient pan yn archebu.

Adnewyddu Addunedau

£550

Yn barod i deithio ledled Cymru a Lloegr, a bydd unrhyw gostau teithio ychwanegol yn cael eu trafod a’u cytuno gyda’r cleient pan yn archebu.