Gwasanaethau/Seremoniau -Personol-Unigryw-Teimladwy

Siân Owen

Personal-Unique-Heartfelt Ceremonies & Services

Gweinydd Proffesiynol

Fy Stori

Bu yn uchelgais gennyf ers peth amser i ddod yn Weinydd. Ond pam hynny?

Dros y blynyddoedd rwyf wedi profi colled a galar, a thrwy hynny sylweddoli pa mor hynod bwysig fu i fy nheulu a minnau gael tywysydd caredig a chydymdeimladol yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Fy ngobaith yw gallu cynnig yr un gefnogaeth i eraill.

Mae fy null yn un gynnes, yn dosturiol a hynod bersonol. Rwy’n cymryd amser i wrando, i ddeall, ac fe wnaf fy ngorau glas i gefnogi chi a’ch teulu yn ystod yr adegau trist hyn.

Ysgrifennodd un teulu a gefais y fraint o’u cefnogi yn ddiweddar –

“Roedd eich cynhesrwydd a’ch cefnogaeth yn gwbl amhrisiadwy. O’r eiliad cyntaf y cawsom yr alwad gychwynnol gyda chi, roeddem yn teimlo’n dawelach ac yn fwy bodlon y byddai’r gwasanaeth yn adlewyrchu’n union yr hyn a ddymunem, ac y byddech yn ein helpu drwy’r cyfnod.”

Os ydych, ar y llaw arall, yn chwilio am rywun i’ch cefnogi a’ch tywys ar achlysur hapus fel eich priodas, adnewyddu eich addunedau neu enwi eich plentyn, byddaf yn cynnig yr un lefel o ymrwymiad i chi ar eich diwrnod arbennig. Byddaf yn sicrhau ei fod yn achlysur gwirioneddol gofiadwy, hardd a llawen.

Gwasanaethau y Gallaf eu Cynnig

Gallaf greu seremonïau/gwasanaethau unigryw, cofiadwy a didwyll i anrhydeddu a dathlu’r eiliadau hynod arbennig yn eich bywydau.

Gweinydd Priodasau a Theulu

Fel Gweinydd Priodasau a Theulu, edrychaf ymlaen at eich cefnogi yn ystod achlysur hapus eich priodas, adnewyddu eich addunedau neu seremonïau enwi ar gyfer eich plant.

Gweinydd Angladdau

Byddaf yn sicrhau eich bod yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl y gallech ddymuno ar gyfer eich anwylyn, gan gynnal didwylledd, tosturi, cyfrinachedd a phroffesiynoldeb bob amser.

Gwasanaethau

Priodasau ac Adnewyddu Addunedau

Byddaf yn gweithio gyda chi i greu eich diwrnod arbennig — un sy’n wirioneddol unigryw i chi’ch dau.

Enwi Babanod

Byddaf yn creu gyda chi seremoni hyfryd i groesawu a dathlu genedigaeth neu ddyfodiad eich plentyn newydd i’r teulu.

Angladdau

Byddaf yn eich cefnogi chi a’ch teulu gyda sensitifrwydd a thosturi, a bydd yn anrhydedd gennyf wneud hynny.

Cwestiynau Cyffredin

Mae Gweinydd Sifil yn weithiwr proffesiynol sy’n creu ac yn arwain seremonïau ffurfiol. Yn wahanol i gofrestrydd neu arweinydd crefyddol, mae gan gweinydd y rhyddid i greu seremoni sy’n gwbl bwrpasol, heb unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol na chrefyddol ar gynnwys, cerddoriaeth na lleoliad.

Unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â mi.

A allwn ni gynnwys elfennau crefyddol yn ein seremoni?

Gallwch, yn bendant. Un o brif fanteision dewis gweinydd yw fod gennych ryddid llwyr. Gallwch gynnwys emynau, gweddïau neu ddarlleniadau crefyddol ochr yn ochr â chynnwys seciwlar, neu beidio cynnwys elfennau crefyddol o gwbl. Mae hyn yn gwbl i fyny i chi.

Ble gall y seremoni gael ei chynnal?
Unrhyw le! Gan nad yw seremoni a arweinir gan ddathlwr yn weithred gyfreithiol o briodas (sydd fel arfer yn digwydd ar wahân mewn swyddfa gofrestru), nid ydych wedi’ch cyfyngu i leoliadau trwyddedig. Gallwch gynnal eich seremoni ar draeth, mewn coedwig, yn eich gardd, neu mewn unrhyw leoliad sydd o ystyr arbennig i chi.
Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i archebu?
Ar gyfer priodasau a seremonïau enwi, rwy’n argymell archebu cyn gynted ag y bydd gennych ddyddiad mewn golwg, yn aml rhwng 6–12 mis ymlaen llaw. Ar gyfer angladdau, mae’r amserlen yn llawer byrrach, ac fel arfer rwy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’ch Trefnydd Angladdau dewisol i drefnu dyddiad o fewn 1–2 wythnos.
A ydych yn helpu gyda’r agwedd gyfreithiol ar briodas?
Gallaf eich tywys drwy’r broses, ond fel Gweinydd Sifil, nid oes gennyf yr awdurdod cyfreithiol i briodi cwpl yn swyddogol. Mae’r rhan fwyaf o gyplau yn cwblhau’r “agweddau cyfreithiol” mewn swyddfa gofrestru (yn aml apwyntiad syml o tua 10 munud) cyn neu ar ôl eu seremoni briodas bersonol gyda mi.

Tystebau

Siân, you came across so polite and composed, with a beautiful style and a wonderfully creative way of writing. The structure of your service was perfect, and you guided everyone with care, standing people up and remembering to sit them back down. Your sincerity shone through every word. If you can do that with a sore throat, my goodness, watch this space! It was very special.

Tessa Sheehy

Rheolwr Hyfforddi APC / Hyfforddwr Llwyddiant Goffaeth

Mi oeddet ti’n berffaith Siân…a phawb yn y teulu yn cytuno.

Diolch am wneud cyfnod mor anodd bach yn haws i ni fel teulu xx

You are very real and sincere and are an absolute pleasure to listen to.

Tessa Sheehy

Rheolwr Hyfforddi APC / Hyfforddwr Llwyddiant Goffaeth

We feel so lucky that you were appointed. Your warmth and support through those weeks were absolutely invaluable. From the moment of the initial call, we had with you, we felt calmer and more comfortable that the service would reflect just what we wanted for dad and that you would help us get through it all…

..We will forever be grateful to you for your help, support and friendship and hope that other people are as lucky as us and manage to have you appointed to help them through this tricky process. I know that this is a relatively new path for you, but you are a natural, it is clearly a calling for you to help people in this way.

Hannah & Tiz

Cysylltwch i Drafod Ymhellach