Telerau ac Amodau

Croeso i wefan Gweinydd Siân Owen.

Drwy ddefnyddio fy ngwefan neu ymgysylltu â’m gwasanaethau, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau canlynol. Darllenwch hwy’n ofalus.

1. Gwasanaethau

  • Rwy’n darparu gwasanaethau gweinydd pwrpasol ar gyfer angladdau, priodasau a seremonïau eraill. Bydd manylion a chwmpas y gwasanaethau yn cael eu cytuno cyn cychwyn.

2. Archebu a Thalu

  • Rhaid cadarnhau pob archeb yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.
  • Efallai y bydd angen blaendal nad yw’n ad-daladwy i sicrhau eich archeb, fel y’i cytunwyd yn ystod y trafodaethau cychwynnol.
  • Dylid talu’r gweddill heb fod yn hwyrach nag (ar y diwrnod ar gyfer angladdau ac un mis ar gyfer pob seremoni arall) cyn dyddiad y seremoni.
  • Gellir gwneud taliadau drwy drosglwyddiad banc neu ddulliau eraill a gymeradwyir.

 

3. Canslo ac ad-daliadau

  • Os bydd angen canslo, mae’n rhaid i’r cleient wneud hyn yn ysgrifenedig. Bydd ad-daliadau (os yw’n berthnasol) yn ddarostyngedig i’r telerau a amlinellir yn ein polisi canslo.
  • Yn yr achos prin na fyddaf yn gallu darparu’r gwasanaethau oherwydd amgylchiadau annisgwyl, byddaf yn cynnig ad-daliad llawn o unrhyw ffioedd a dalwyd, ac yn cynorthwyo i drefnu dathlwr amgen.

 

4. Newidiadau i’r Seremoni

  • Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion y seremoni cyn gynted â phosibl ac, ar y diweddaraf, (tri diwrnod ar gyfer angladdau a phedwar diwrnod ar ddeg ar gyfer pob seremoni arall) cyn y seremoni.
  • Gall newidiadau sylweddol fod yn destun taliadau ychwanegol neu golli’r blaendal, yn dibynnu ar faint a natur y newidiadau sydd eu hangen.

 

5. Atebolrwydd

  • Er y gwneir pob ymdrech resymol i ddarparu’r gwasanaethau yn unol â’r hyn a gytunwyd, ni fyddaf yn atebol am unrhyw golledion anuniongyrchol, canlyniadol nac achlysurol sy’n codi o amgylchiadau sydd y tu hwnt i’m rheolaeth.”
  • Mae fy atebolrwydd wedi’i gyfyngu i’r swm a dalwyd am fy ngwasanaethau.

 

6. Hawliau Eiddo Deallusol

  • Mae unrhyw gynnwys gwreiddiol a grëir gennyf ar gyfer y seremoni (megis sgriptiau, addunedau neu ddarlleniadau) yn parhau’n eiddo deallusol i mi. Cewch ddefnyddio’r cynnwys hwn at ddefnydd personol yn unig.

 

7. Cyfrinachedd

  • Rwy’n parchu eich preifatrwydd a’ch cyfrinachedd. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a rennir gyda mi yn cael ei defnyddio at ddiben cynllunio a darparu eich seremoni yn unig.

 

8.Cwynion

  • Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion, cysylltwch â mi ar unwaith ar lafar fel y gallwn geisio datrys y mater. Os oes angen, dylid hefyd gyflwyno’r gŵyn yn ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod ar ôl eich seremoni er mwyn imi allu mynd i’r afael â’r mater yn brydlon.

 

9. Defnyddio’r Wefan

  • Mae defnydd o’m gwefan yn cael ei lywodraethu gan y telerau hyn. Gwaherddir unrhyw ddefnydd, atgynhyrchu neu ddosbarthu cynnwys y wefan heb awdurdod.
  • Ni fyddaf yn atebol am unrhyw golledion neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio dolenni trydydd parti ar fy ngwefan.

 

10. Diwygiadau

  • Rwy’n cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu diweddaru ar fy ngwefan.